Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cais am V5CW Ddyblyg

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth i gael copi dyblyg o lyfr log cerbyd

Rheolir y wefan hon gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w deall.

Mae cyngor gan AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

Roedd defnyddwyr sy’n dibynnu ar adborth sain yn cael eu rhwystro gan ddefnydd anghywir o elfennau fieldset ac allwedd i ffurflenni grwpiau, strwythur penawdau afresymegol ac enghreifftiau o ffurflenni heb eu labelu neu wedi’u labelu’n amwys fel arall.

Mae rhai defnyddwyr actifadu llais wedi cael anhawster gyda’r labelu ac uwchfarcio elfennau’n gyson

Tra bod y cyferbynnedd lliw cyffredinol yn dda, roedd enghreifftiau o ddangosyddion ffocws yn syrthio o dan y gymhareb cyferbynnedd ofynnol isafswm.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille hygyrch, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanola byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt,

  • e-bost
  • ffonio 0300 790 6802 neu 0300 790 6819 am y llinell uniongyrchol Gymraeg
  • sgwrs ar-lein

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Rheolwr gwasanaeth Cerbydau Anthony.bamford@dvla.gov.uk

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd') Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r DVLA wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

1. Mae'r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1. oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod - mae hyn yn golygu bod y cynnwys o dan sylw o fewn cwmpas y rheoliadau, ond mae problem hygyrchedd ganddo.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Cyfeirnod WCAG: 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd – Safon A

  • Fieldset ac allwedd anghywir (A)

    Tra bod fieldset gydag allwedd fel y plentyn cyntaf yn bresennol, nid yw’r elfen allwedd yn cynnwys gwerth. Oherwydd hyn, ni chyhoeddir unrhyw gwestiwn cysylltiol ar gyfer y botymau radio wrth lywio’r tu allan i gyd-destun. Yn ogystal, mae safonau GOV.UK yn awgrymu y dylai’r H1 weithredu fel yr allwedd ar gyfer tudalennau ag un cwestiwn yn unig

  • Strwythur penawdau afresymegol (A)

    Nid yw penawdau’n dilyn strwythur rhesymegol, hierarchaidd

  • Ffurflen heb ei labelu (A)

    Nid oes gan elfennau ffurflenni label rhagweithiol

Cyfeirnod WCAG: 2.2.1 Amseru y Gellir ei Addasu – Safon A

  • Terfyn amser (A)

    Mae terfyn amser yn digwydd heb rybudd blaenorol.

Cyfeirnod WCAG: 2.4.6 Penawdau a Labeli – Safon A

  • Label ffurflen amwys (AA)

    Nid yw labeli ffurflenni’n disgrifio’n llwyr eu diben bwriadedig

Cyfeirnod WCAG: 3.3.3 Awgrymiad Gwall – Safon AA

  • Awgrymiad gwall (AA)

    Nid yw negeseuon gwall yn awgrymu’n llwyr yr holl wallau sy’n bresennol.

Cyfeirnod WCAG: 1.4.11 Cyferbynnedd heb fod yn destun – Safon AA

  • Cyferbynnedd lliw heb fod yn destun (AA)

    Mae elfennau heb fod yn destun rhyngweithiol yn syrthio o dan y gymhareb cyferbynnedd ofynnol isafswm o 3:1 yn erbyn lliw cyfagos.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn gweithio i wella hygyrchedd ei holl wasanaethau. Diweddarir ein gwasanaethau mwy newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau Hygyrchedd yn gynnar yn 2021. Adolygir ein gwasanaethau hŷn ar hyn o bryd gyda’r nod i’w disodli gyda gwasanaethau mwy hygyrch syml yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 1 Mawrth 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 1 Mawrth 2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 09 Rhagfyr 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre Limited.

Profwyd 3 taith cwsmer a oedd yn cwmpasu llwybrau hapus ac anhapus. Sicrhaodd y dull hwn fod gennym amrywiaeth o senarios defnyddwyr i brofi hygyrchedd yn effeithiol.

Taith 1: cymhwysiad llwyddiannus cynhwysol.

Taith 2: taith a gynhyrchwyd gan system, a achoswyd gan na fedrwyd dilysu peth gwybodaeth gan y gwasanaeth e.e. rhif cofrestru sy’n atal y cwsmer rhag parhau gan na all ddod o hyd i gofnod y cerbyd.

Taith 3: taith a gynhyrchwyd gan system, a achoswyd gan wall gan y mewnbynnwyd nodau annilys i’r gwasanaeth e.e. Rhif VIN