Telerau ac amodau
Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn llywodraethu’ch defnydd o Wasanaeth Ymgeisio am Lyfr Cofrestru Dyblyg (V5CW) y DVLA a'ch perthynas â'r wefan hon. Darllenwch nhw'n ofalus gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau a'ch rhwymedigaethau o dan y gyfraith. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan hon.
Mynediad i'r Gwasanaet
Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i unigolion wneud cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5CW) ddyblyg ar-lein. Yn y dyfodol, efallai y bydd gwasanaethau a nodweddion ychwanegol yn cael eu hychwanegu.
Dim ond os ydych wedi’ch awdurdodi i wneud hynny y dylech geisio cael mynediad at y gwasanaeth hwn h.y., chi yw’r ceidwad cofrestredig neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran.
Bydd angen rhif cofrestru’r cerbyd (plât rhif), Rhif Adnabod y Cerbyd (VIN), cyfenw neu enw busnes a chod post arnoch er mwyn cyrchu’r gwasanaeth hwn.
Bydd y gwasanaeth hwn ar gael i bob unigolyn sy'n dymuno gwneud cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd dyblyg (V5CW) o 7am i 8pm. (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
Ni allwn warantu y bydd y gwasanaeth yn ddi-fai. Os bydd nam yn digwydd, dylech adrodd ar 0300 123 4321 a byddwn yn ceisio cywiro'r nam cyn gynted ag y gallwn yn rhesymol.
Costau
Fel arfer bydd cost o £25.00 yn gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn.
Mae DVLA yn cadw’r hawl i newid cost y gwasanaeth hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Cardiau Talu
Derbynnir cardiau debyd a chredyd i dalu ar y wefan hon. Trosglwyddir gwybodaeth cerdyn yn unol â'n datganiad diogelwch.
Parhad y gwasanaeth
Lle bo modd, bydd y DVLA yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau nad oes unrhyw doriad ym mharhad y gwasanaeth a bydd ond yn gwneud newidiadau pan fo angen. Mae'n bosibl y bydd angen toriadau ar adegau pan fydd angen gwneud uwchraddiadau hanfodol i’r gwasanaeth
Ymwadiad
Nid yw DVLA yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod a achosir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth hwn, boed yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol neu’n ganlyniadol, boed hynny oherwydd camwedd, tor-cytundeb neu fel arall, mewn cysylltiad â’n gwasanaeth, ei ddefnydd, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau am y defnydd o’n gwasanaeth, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arno.
Mae hyn yn cynnwys colli:
- incwm neu refeniw
- busnes
- elwau neu gontractau
- arbedion a ragwelir
- data
- ewyllys da
- eiddo diriaethol
- gwastraffu amser rheoli neu swyddf
Cwcis a Phreifatrwydd
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis. Cyfeiriwch at y polisïau hyn am ragor o wybodaeth.
Amddiffyn rhag feirws
Bydd DVLA yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i ddefnyddwyr redeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r we.
Nid yw'r DVLA yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch dyfais a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.
Hawlfraint ac atgynhyrchu
Mae'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn cael ei warchod gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y goron am ragor o wybodaeth.
Ni chaniateir i chi'r cwsmer addasu neu newid yr wybodaeth, bydd unrhyw ymgais i wneud hynny yn gyfystyr â thorri'r telerau ac amodau hyn.
Mae'r enwau, y delweddau a'r logos sy'n dynodi DVLA yn nodau perchnogol i'r DVLA. Ni chaniateir copïo logos DVLA a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill y ceir mynediad iddynt drwy’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint berthnasol.
Diwygiadau i Delerau ac Amodau
Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl y dyddiad y daw’r newidiadau i rym, mae eich defnydd o’r wefan yn nodi eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau newydd.
Cyfraith Gymhwysol
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr a dim ond llysoedd Lloegr fydd yn penderfynu ar unrhyw anghydfod.